Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ansawdd Aer

Air Quality

NHAMG (5) AA10

CCERA(5) AQ10

Ymateb gan Coleg Brenhinol y Meddygon

Evidence from Royal College of Physicians

 

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Materion Gwledig a'r Amgylchedd i ansawdd aer.   Buom yn gweithio gyda meddygon ymgynghorol, meddygon dan hyfforddiant a meddygon arbenigol, yn ogystal ag aelodau o’n rhwydwaith cleifion a gofalwyr yng Nghymru i gynhyrchu’r ymateb hwn. Rydyn ni’n fwy na pharod i drefnu rhagor o dystiolaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth ar lafar os byddai hyn o help.  

 

 

Crynodeb o'r dystiolaeth

 

       Bob blwyddyn yn y DU, gellir priodoli tua 40,000 o farwolaethau o ganlyniad i ddod i gysylltiad â llygredd aer yn yr awyr agored, ac mae mwy hefyd yn gysylltiedig â dod i gysylltiad â llygryddion y tu mewn1. 

       Dylid cyflwyno Deddf Aer Glân yng Nghymru cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, er mwyn lleihau effaith llygredd aer a gwella iechyd pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

       Nid oes lefel ddiogel wrth ystyried dod i gysylltiad â llygredd aer ac mae’n effeithio ar sawl organ.

       Dylai Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda phartneriaid yr UE i sicrhau nad yw Brexit yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i wanhau deddfau a rheoliadau sy’n ymwneud â llygredd aer ac ysmygu. 

       Mae awdurdodau cenedlaethol a lleol ledled y byd yn mynd i’r afael â llygredd aer car trwy gyflwyno gwaharddiadau cerbydau eilrif/odrif a hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus. Mae awdurdodau cenedlaethol yn Ewrop yn anelu at leihau effaith ehangach llygredd aer trwy leihau cyfanswm cenedlaethol nifer yr allyriadau sylffwr deuocsid, nitrogen ocsid (Nox), amonia a gronynnau. 

       Dylai Llywodraeth Cymru geisio gwella cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru fel nad yw poblogaeth Cymru’n ddibynnol ar geir fel ffordd o deithio.

       Dylai’r cyfrifoldeb o fonitro, asesu a rhoi'r drefn Rheoli Ansawdd Aer Lleol ar waith gael ei rannu rhwng y system gyfan. Rhaid i Lywodraeth Cymru rhoi cymorth i Awdurdodau Lleol, gan gynnwys cyllid. 

 

 

Cyflwyniad

 

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi cynhyrchu dau adroddiad yn amlygu effaith niweidiol llygredd aer. Every breath we take: The lifelong impact of air pollution (2016) a The inside story: Health effects of indoor air quality on children and young people (2020) 2.

 

Mae’r adroddiadau’n amlygu bod niwed o lygredd aer nid yn unig yn gysylltiedig ag iechyd gwael dros gyfnodau byr. Mae’n broblem dymor hir sy’n gallu cychwyn mewn beichiogrwydd ac yn gallu digwydd dros oes.

Bydd cynllun strategaeth Awyr Iach, Cymru Iach Llywodraeth Cymru yn helpu yn y broses o ddatblygu amodau byw iachach yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud llawer mwy i fynd i’r afael â llygredd aer a salwch o bob math. 

 

Pa fylchau neu faterion rheoleiddiol fydd angen sylw ar ôl i'r DU adael yr UE? Sut dylid rhoi sylw i’r pethau hyn a beth fydd y prif heriau?

 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw Brexit yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i wanhau deddfau a rheoliadau sy’n ymwneud â llygredd aer. Dyma’r pethau y dylai'r Llywodraeth eu gwneud:

       cyfuno corff cymhleth ac anghyfartal deddfau llygredd aer rhyngwladol, domestig ac UE er mwyn cael un ddeddf aer glân gydlynol ac effeithiol.

       ymgorffori canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd3 yn unol â’r gyfraith

       parhau i weithio gyda sefydliadau'r UE wrth ymateb i’r her o fynd i’r afael â llygredd aer, neu efallai na fydd Cymru'n gallu cyrraedd safonau llygredd aer Sefydliad Iechyd y Byd 

       Cyflwyno a chynnal trefn reoleiddio atal a rheoli llygredd mewn ffordd integredig, gan gynnwys proses ar gyfer adolygu a diweddaru'r technegau gorau sydd ar gael

       cynhyrchu strategaeth ansawdd aer 5 mlynedd statudol er mwyn monitro gwendidau'r ddeddfwriaeth.

       cyflwyno deddfwriaeth ‘hawl i anadlu’, gan orfodi awdurdodau lleol i roi gwybod i grwpiau bregus pan fo lefelau penodol yn torri’r canllawiau sy’n cael eu hargymell

       llygrydd yw mwg sigaréts a bydd rhaid ei fonitro ar ôl Brexit i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyrraedd gofynion rheoliadau'r UE. 

 

 

 

 

 

 

 

A yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf Aer Glân yn addas? Sut y gellid eu gwella? 

 

Rydyn ni’n croesawu Cynllun Aer Glân yng Nghymru ac mae'r llwybr wedi’i bennu i fynd ati ar fyrder i fynd i’r afael â lefelau llygredd aer a gwella ansawdd aer yn gyffredinol.

 

Cyllid

 

Pryder cychwynnol sy’n cael ei rannu gydag Awyr Iach Cymru, yw diffyg cynlluniau cyllid pendant i wireddu uchelgais Awyr Iach, Cymru Iach a Deddf Aer Glân. 

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn croesawu diwygiadau ar lefel awdurdod lleol sy’n caniatáu i awdurdodau lleol ddatblygu ac ymgorffori cynlluniau i fynd i’r afael â llygredd. Fodd bynnag, mae pryderon na fydd gan awdurdodau lleol Cymru ddigon o gyllid i gyflwyno Deddf Aer Glân yn llwyddiannus, am eu bod eisoes yn ei chael hi’n anodd yn ariannol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r awdurdodau lleol i ddatblygu Deddf Aer Glân y gellir ei chyflwyno ar lefel leol. 

 

Amserlen Deddfwriaethol 

 

Efallai na fydd amser deddfwriaethol yn caniatáu cyflwyno Deddf Aer Glân ar hyn o bryd, dylai gwaith ymgyrchu ddechrau llawer cynt. Bydd yn helpu i newid ymddygiad ac felly dechrau'r broses o leihau lefelau llygredd aer. 

Mae Awyr Iach Cymru wedi cynnig adolygu buddion Bil Trafnidiaeth (yr Alban) a Bil Amgylchedd y DU (Egwyddorion a Llywodraethu). Rydyn ni’n pryderu ynglŷn â’r ffaith a fydd y biliau wedi cael eu cyflwyno mewn da bryd i'w buddion gael eu hasesu. Dylai Llywodraeth Cymru anelu at adolygu llwyddiant deddfau amgylchedd a mentrau ansawdd aer y tu allan i'r Deyrnas Unedig. 

 

Beth allwn ni ei ddysgu o ddulliau gweithredu deddfwriaethol?

 

Llundain

 

Mae strategaethau amgylcheddol 4 a thrafnidiaeth Maer Llundain 5 wedi nodi nifer o atebion uchelgeisiol a beiddgar wrth fynd i’r afael â lefelau llygredd aer anghyfreithlon Llundain. Bwriedir newid y ffordd mae pobl yn teithio, felly erbyn 2041, bydd 80% o bobl Llundain yn teithio ar droed, gyda beic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn gostwng lefelau llygredd aer ac yn galluogi mwy o fuddion iechyd o ganlyniad i wella ansawdd aer. Yn ddiweddar mae Llundain wedi cyflwyno tâl gwenwyndra a pharth allyriadau isel iawn (ULEZ). Bydd Llundain yn ceisio cael gwared ar fysiau disel yn unig a sicrhau na fydd yr un tacsi disel yn cael trwydded o 2018 ymlaen. Felly, bydd y gwaith yma hefyd yn cyfrannu at fynd i’r afael â llygredd aer Llundain. Mae Maer Llundain yn bwriadu sicrhau bod pob tacsi newydd trwyddedig yn rhai trydan a heb unrhyw allyriadau6. Bydd penderfyniad Trafnidiaeth Llundain i fuddsoddi mewn mesurau cost-effeithiol sy'n arwain at welliannau yn iechyd y cyhoedd yn gosod esiampl i awdurdodau lleol ar draws y DU sy’n ystyried  ymyriadau o’r fath.

 

 

 

Ffrainc

 

Er mwyn cydymffurfio â gofyniad cyfreithiol yr UE, cyflwynodd llywodraeth Ffrainc Deddf Symudedd 2018. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ardaloedd sydd â mwy na 100,000 o drigolion neu sydd â Chynllun Diogelu'r Aer fod wedi sefydlu parthau amgylcheddol parhaol neu rhai dros dro ar eu tir erbyn diwedd 20207

 

Paris

 

Ers 2015 mae’r ddinas wedi gorfodi mesurau i wahardd cerbydau8, ac mae modd hefyd teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn ystod cyfnodau pan mae llygredd yn uchel, yn ogystal â’r ffaith ei bod yn annog pobl i fanteisio ar raglenni rhannu car a beic. Mae rhan hir y tu ôl i’r afon Seine bellach yn ardal heb geir ac mae gwaharddiad misol ar geir wedi dod i rym ar hyd y Champs-Elysées9. Yn 2019 penderfynodd Paris dynhau'r gwaharddiadau gyrru ar sail sticer gwrth-lygredd Ffrainc am gyfnod prawf o 3 blynedd. O’r dyddiad hwnnw, dim ond cerbydau gyda sticer gwrth-lygredd E, 1, 2 a 3 Ffrainc sy’n cael gyrru10.

 

Yr Iseldiroedd

 

Yn ddiweddar mae llywodraeth yr Iseldiroedd wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau bod pob car heb unrhyw allyriadau erbyn 203011. Mae dinas Amsterdam wedi cyhoeddi cynllun Aer Glân 2019 sy'n ceisio bodloni canllawiau  ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd erbyn 2030 a cheisio bod yn rhydd o lygredd erbyn 203012

 

Helsinki, Ffindir

 

Mae’r brifddinas wedi lleihau faint o geir sydd ar ei strydoedd yn sylweddol drwy fuddsoddi llawer mewn gwell trafnidiaeth gyhoeddus, gosod ffioedd parcio uwch, annog pobl i feicio neu gerdded a throi cylchffyrdd canol y ddinas yn ardaloedd preswyl a cherdded. Y bwriad yw gwella cymaint ar drafnidiaeth gyhoeddus fel na fydd neb eisiau bod yn berchen ar gar erbyn 2050. 

 

Yr Almaen

 

Mae llywodraeth yr Almaen wedi mabwysiadu Cynllun Aer Glân, sy’n nodi sut mae'r wlad yn bwriadu gwella ansawdd aer dros y ddegawd nesaf. Mae’r rhaglen yn edrych ar leihau cyfanswm canran allyriadau cenedlaethol llygryddion atmosfferig penodol, gan gynnwys sylffwr deuocsid, nitrogen ocsid (Nox), amonia a gronynnau. Bydd y rhaglen hon yn nodi safonau ansawdd amgylcheddol, yn gosod terfynau ar allyriadau ac yn rheoleiddio cynhyrchion13.

 

Beth yw eich barn chi ar y cynigion rheoleiddio mewn perthynas â threfn Rheoli Ansawdd Aer Lleol? Beth yw'r prif heriau mewn perthynas â'r dull gweithredu arfaethedig?

 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Cymru'n diwallu safonau amgylcheddol yr UE, neu hyd yn oed yn rhagori arnyn nhw. Dylai ymgorffori safonau Sefydliad Iechyd y Byd yn unol â’r gyfraith.

 

Mewn egwyddor mae Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) yn croesawu moderneiddio trefn Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol i sicrhau bod ardaloedd â phroblemau yn cael eu monitro ac yn cael sylw priodol. Mae’r cynlluniau’n rhai uchelgeisiol wrth ystyried asesu llygryddion a’r ymdrechion i gynyddu ymgysylltiad â’r cyhoedd. Gan fod ansawdd aer yn waeth mewn ardaloedd difreintiedig, bydd y cynllun yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac yn lleihau salwch y bobl sy’n byw ac yn teithio drwy'r ardaloedd hynny. 

 

Ni ellir rhoi’r cyfrifoldeb o reoli, adolygu nac asesu ansawdd aer ar awdurdodau lleol yn unig, oherwydd efallai fod awdurdodau lleol yn cael eu llethu gan fesurau ansawdd aer. Dylai’r cyfrifoldeb o fonitro, asesu a rhoi'r drefn Rheoli Ansawdd Aer Lleol ar waith gael ei rannu rhwng y system gyfan.

Rhaid i Lywodraeth Cymru rhoi cymorth i Awdurdodau Lleol, gan gynnwys cyllid.

 

Beth yw eich barn chi ar y cynigion rheoleiddio mewn perthynas â llosgi domestig (gan gynnwys tân gwyllt/coelcerthi), gadael injan cerbydau’n segur a Pharthau Aer Glân/Parthau Allyriadau Isel?

 

Mae galw mawr am Barthau Aer Glân a Pharthau Allyriadau Isel yng Nghymru, yn dilyn llwyddiant cyflwyno parthau Allyriadau Isel Iawn yn Llundain. Mae gwledydd ledled y byd wedi cyflwyno Parthau Aer Glân a Pharthau Allyriadau Isel Iawn mewn prifddinasoedd a dinasoedd mawr.

Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol i gyflwyno  mesurau ansawdd aer. Yn ddiweddar mae cyngor Dinas Caerdydd wedi cyhoeddi papur gwyn yn cynnig ‘Cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd’14 a byddai’n defnyddio’r arian i hyrwyddo cynllun model ar gyfer trafnidiaeth yng Nghaerdydd. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r papur gwyn a dilyn yr un drefn ar gyfer cynigion awdurdodau lleol eraill. 

 

Beth yw'r prif heriau wrth gyflwyno fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ansawdd aer fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori?

Deddfwriaeth sylfaenol vs isddeddfwriaeth

 

Mae angen asesiad o’r ddogfen, a wnaed gan Lywodraeth Cymru i bennu a oes angen deddfwriaeth sylfaenol. Byddai hyn yn herio Llywodraeth Cymru i gydweithio â llywodraeth San Steffan i sicrhau pa ddull gweithredu sydd ei angen wrth bennu mesurau. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu Bil Amgylchedd San Steffan (2019) i asesu’r mesurau a fyddai’n cynnwys Cymru a Lloegr a’r mesurau sy’n cynnwys y pedair gwlad.

 

 

 

Ar ôl gadael yr UE

 

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda sefydliadau’r UE i fynd i'r afael â llygredd aer. Heb y cydweithrediad hwnnw, efallai na fydd Cymru'n gallu diwallu anghenion safonau llygredd aer Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Y pwyslais ar awdurdodau lleol

 

Mae'r ddofgen hon yn rhoi’r rhan fwyaf o'r cyfrifioldeb ar awdurdodau lleol. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol i gyflwyno, rheoli, ac asesu mentrau’n llwyddiannus.  

 

Gwella trafnidiaeth gyhoeddus

 

Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru yn wael, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus gyda’r bwriad o wneud ceir yn bethau annymunol. Dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu polisïau trafnidiaeth ac aer glân Helsinki. Byddai gwella trafnidiaeth gyhoeddus a lleihau dibynadwyedd y cyhoedd ar geir yn lleihau llygredd aer yn fawr. 

Darllen Pellach

 

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Choleg Brenhinol y Meddygon (2020) The inside story: Health effects of indoor air quality on children and young people. 

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Choleg Brenhinol y Meddygon (2016) Every breath we take: the lifelong impact of air pollution. Report of a working party. 

 

Amdanom ni

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru) yn arwain y ffordd o ran darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion drwy osod safonau ar gyfer arferion meddygol a hybu rhagoriaeth glinigol.  Rydyn ni’n darparu addysg, hyfforddiant a chefnogaeth i feddygon yng Nghymru a ledled y byd drwy gydol eu gyrfa.  Fel corff annibynnol sy’n cynrychioli mwy na 37,000 o gymrodorion ac aelodau ym mhedwar ban byd, gan gynnwys 1,300 yng Nghymu, rydym yn cynghori ac yn gweithio gyda’r llywodraeth, y cyhoedd, cleifion, a gweithwyr proffesiynol eraill i wella iechyd a gofal iechyd.

 

 

                                                          

11 Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Choleg Brenhinol y Meddygon (2020) Every breath we take. https://www.rcplondon.ac.uk/projects/outputs/every-breath-we-take-lifelong-impact-air-pollution2 Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Choleg Brenhinol y Meddygon (2020) The inside story: Health effects of indoor air quality on children and young people. https://www.rcpch.ac.uk/sites/default/files/202001/the-inside-story-report_january-2020.pdf.

3   World Health Organisation 2017 WHO Ambient (outdoor) air quality and health.

http://www.who.int/mediacentre/factsheets/fs313/en/ 

4   https://www.london.gov.uk/WHAT-WE-DO/environment/environment-publications/draft-londonenvironment-strategy-have-your-say  5 Gweler Uchod (5). 6 Gweler Uchod (5)

7https://www.lez-france.fr/nc/en/general-information/future-environmental-zones.html#c119277 8 https://www.theguardian.com/world/2016/dec/07/paris-bans-cars-for-second-day-running-as-pollutionstrikes.

9        https://www.theguardian.com/cities/2016/sep/26/paris-council-approves-ban-vehicles-right-bank-seineroad.

10   https://www.lez-france.fr/nc/en/french-environmental-zones-zcr/paris-zone-zcr.html#c18096.

11   https://electrek.co/2017/10/10/netherlands-dutch-ban-petrol-diesel-cars-2030-electric-cars/. 

12   https://www.amsterdam.nl/en/policy/sustainability/clean-air/.

13Symudiad yr Almaen 2018. Clean Air - Made in Germanyhttp://www.german-sustainable-mobility.de/wpcontent/uploads/2014/12/CleanAir-MadeInGermany_GPSM.pdf. 14 Cardiff Council 2020 Parking, Roads and Travel Transport White Paper.

https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/transport-policies-plans/transport-whitepaper/Documents/White%20Paper%20for%20Cardiff%20Transport%202019.pdf.